Dr Mark Taubert,Ymgynghorydd Gofal Lliniarol yn Ysbyty Felindre, Caerdydd, Cymru Twitter
Cyfieithiad gan D W Williams
Annwyl David,
‘Oh no,don’t say it’s true’ ac wrth i ni ddygymod á’r newydd am dy farwolaeth yn ystod dyddiau llwydaidd,oer Ionawr 2016, aeth y rhelyw ohonom ymlaen á’n bywydau a’n gwaith bob dydd.Ar ddechrau’r wythnos honno, cefais drafodaeth ag un o gleifion yr ysbyty, un oedd yn wynebu diwedd ei hoes. Wrth drafod dy farwolaeth a dy gerddoriaeth,mi ddechreuon ni siarad am nifer o bynciau dwys,rhai sydd ddim bob amser yn rhai hawdd i’w trafod á rhywun sydd yn wynebu diwedd oes. Yn wir,roedd dy stori di’n ffordd i ni gyfathrebu’n agored iawn am farwolaeth, pwnc y mae nifer o ddoctoriaid a nyrsus yn cael trafferth i’w drafod.Ond cyn i mi són mwy am y drafodaeth uchod,hoffwn gyfaddef ambell ffaith gan obeithio na fyddaf yn dy ddiflasu’n ormodol.
Diolch am yr Wythdegau pan wnaeth dy albwm Changesonebowie roi oriau o bleser pur i mi,yn enwedig yn ystod un daith arbennig o Darmstadt i Cologne ac yn ól. Mae’n bur debyg y byddaf i a’m ffrindiau yn cysylltu Diamond Dogs, Rebel Rebel, China Girl a Golden Years gyda’r cyfnod arbennig hwnnw yn ein bywydau. Does dim angen dweud ein bod wedi cael amser bythgofiadwy yn Kóln.
Diolch am ‘Berlin’, yn enwedig yn y dyddiau cynnar pan oedd dy ganeuon yn rhoi cefnlen cerddorol i’r hyn oedd yn digwydd yn Nwyrain a Gorllewin yr Almaen.Mae ‘Helden’ gen i o hyd ar ‘vinyl’ ac mi chwaraeais y gán unwaith yn rhagor pan glywais am dy farwolaeth (mi fyddi’n falch iawn o glywed y bydd ‘Helden’ yn cael ei chlywed yn y cyfarfod nesaf o’n Clwb Cerddoriaerth Analog a fydd yn cael ei gynnal yn nhafarn y Pilot ym Mhenarth hwyrach ymlaen mis yma.) Mae rhai’n cysylltu David Hasselhoff gyda chwymp y wal a’r aduno;ond mae’n siwr byddai’n well gan y rhan fwyaf o Almaenwyr petai amser wedi rhoi sigarét yng ngheg Mr Hasselhoff yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn ein harbed rhag cael ein byddaru wrth glywed ‘I’ve been looking for freedom’ yn ddiddiwedd ar y radio.Yn bersonol, ‘Heroes’ yw trac sain y cyfnod hwn yn ein hanes.
Diolch hefyd ar ran fy ffrind,Ifan,a aeth i un o dy gigs yng Nghaerdydd.Ei chwaer,Haf,oedd wrth y drws y noson honno ac mi glywais bod Ifan wedi cael mynd i mewn am ddim (mae’n ymddiheuro’n fawr!) Codaist dy law arno ef a’i ffrind o’r llwyfan,profiad a fydd yn aros yn ei gof am byth.
Diolch am ‘Lazarus’ a ‘Blackstar’. Rwyf yn feddyg gofal lliniarol ac mae’r hyn wnest ti yng nghyfnod dy farwolaeth wedi cael effaith cryf iawn arnaf i a nifer o’m cydweithwyr. Mae dy albwm wedi ei britho á chyfeiriadau ac awgrymiadau. Yn ól d’ arfer, nid wyt yn gwneud y gwaith o ddehongli’r caneuon yn hawdd, ond efallai nad dyna’r pwynt. Rwyf wedi clywed sawl gwaith pa mor fanwl a threfnus o’t ti’n dy fywyd. Yn fy marn i, nid cyd-ddigwyddiad yw bod dy farwolaeth tawel yn dy gartref wedi digwydd yr un pryd á rhyddhau dy albwm gan mai ei neges yw ffarwelio.Roedd y cyfan wedi ei drefnu gan droi angau yn gelfyddyd.Mae fideo Lasarus yn un dwys ac mi fydd y golygfeydd yn cyfleu gwahanol ystyron i wahanol bobl; i mi,mae’r gwaith yn delio gyda’r gorffennol wrth iti wynebu marwolaeth anochel.
Dy farwolaeth yn dy gartref. Yn rhinwedd fy swydd,mae nifer o bobl rwy’n siarad á hwy yn credu bo’r rhan fwyaf ohonom yn marw mewn ysbytai,sef llefydd clinigol,ond rwy’n rhyw rhagdybio dy fod ti wedi dewis bod adref ac wedi cynllunio hyn yn fanwl. Dyma un o ddibenion gofal lliniarol, ac mae d’ allu i wneud hyn yn golygu o bosib y bydd eraill yn gweld hwn fel opsiwn. Dywedwyd bo’r lluniau ohonot a welwyd ar ól dy farwolaeth wedi eu tynnu yn ystod wythnosau olaf dy fywyd. Nid wyf yn gwybod os yw hynny’n wir ond rwy’n sicr y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn hoffi edrych mor dda mewn siwt ag o’t ti’n edrych bryd hynny. Yn ól yr arfer,o’t ti’n drwsiadus, fel petaet yn amddiffyn dy hun rhag rhai o’r bwystfilod erchyll á gysylltir á dy gyflwr yn ystod wythnosau olaf dy fywyd.
Er mwyn ceisio rheoli dy sumptomau, mae’n bur debyg bod gofalwyr lliniarol proffesiynol wedi dy gynghori am boen, cyfogi,diffyg anadl,a gallaf ddychmygu eu bod wedi gweud hynny’n drylwyr iawn. Rwy’n rhagweld hefyd eu bod wedi trafod unrhyw broblem emosiynol oedd gennyt.
Parthed cynllunio gofal ymlaen llaw (hynny yw,gwneud penderfyniadau iechyd a gofal cyn i‘r cyflwr waethygu a chyn dy fod yn methu mynegi dy hunan) rwy’n sicr bod gennyt lawer o syniadau, disgwyliadau,penderfyniadau blaenorol ac amodau. Efallai bo’r rhain wedi eu mynegi’n glir ar bapur ac wrth ymyl dy wely gartref fel bod pawb a oedd yn dy gyfarfod yn gwybod yn union beth oedd dy ddymuniad, waeth beth bynnag oedd d’ allu i gyfathrebu. Dyma rhywbeth mae pawb sy’n gweithio ym maes gofal a iechyd-nid yn unig y gofalwyr lliniarol-yn dymuno ei gynnig a’i wella fel ei bod yn llai tebygol y byddai digwyddiad o salwch sydyn yn golygu taith ambiwlans golau-glas yn syth i’r ystafell argyfwng. Yn enwedig,felly,pan mae’r cleifion yn methu siarad ar eu rhan eu hunain.
Ac rwy’n amau’n gryf a roddodd rhywun Adfywiad Cardiopwlmonari iti yn ystod oriau/dyddiau olaf dy fywyd,neu hyd yn oed wedi ystyried hynny. Yn anffodus, mae rhai cleifion sydd ddim wedi dewis derbyn y driniaeth hon yn dal i’w derbyn,yn ddiofyn. Mae’n golygu pwyso’n gorfforol, galed ar y frest, siociau trydan, pigiadau a lledu’r bibell wynt,ac yn llwyddiannus mewn 1-2% o gleifion sydd á’u cancr wedi lledaenu i organau eraill y corff. Mae’n bur debygol dy fod wedi gofyn a gorchymyn i dy dim meddygol beidio á cheisio Adfywiad Cardiopwlmonari (dyma rhywbeth yr ydym yn geisio’i gynnig yma yng Nghymru,fel rhan o’r ymgyrch TALKCPR ar gyfer pobl sydd yn derbyn gofal lliniarol.) Alla’ i ond dychmygu sut brofiad oedd trafod hyn, ond unwaith eto mi’r o’t ti’n arwr, neu’n ‘Held’ yn Almaeneg, hyd yn oed yn ystod munudau mwyaf heriol dy fywyd.
Ac mi fyddai gan y bobl proffesiynol a fu’n gofalu amdanat wybodaeth a sgiliau gofal lliniarol. Yn anffodus, nid yw’r pethau allweddol hyn bob amser ar gael i weithwyr ifanc,proffesiynol yn y maes iechyd a gofal, gan gynnwys doctoriaid a nyrsus. Wrth baratoi eu haddysg, does dim blaenoriaeth i ofal lliniarol;mae’n cael ei anwybyddu. Os wyt am ddychwelyd yn ól (fel y gwnaeth Lasarus) credaf y byddet ti’n gefnogwr cryf i’r syniad o gael hyfforddiant gofal lliniarol ym mhobman.
Felly’n ól i’r sgwrs a gefais gyda’r wraig a glywodd y newydd bod ei chancr wedi lledaenu, ac na fyddai hi’n byw llawer iawn mwy na rhyw flwyddyn arall. Mi siaradodd amdanat ti a’i chariad at dy gerddoriaeth ond am ryw reswm doedd hi ddim yn rhy hoff o dy wisg Ziggy Stardust (doedd hi ddim yn rhy siwr os mai bachgen neu ferch o’t ti.) Roedd hi,hefyd, yn cysylltu dy drac sain idiosyncratig gydag atgofion am lefydd a digwyddiadau. Ac yna mi siaradon ni am farwolaeth dda,am y munudau olaf a’r hyn oedd yn ei disgwyl. Ac mi siaradon ni am ofal lliniarol a sut y gall y gofal hwnnw fod yn gymorth. Soniodd wrtha’ i am farwolaeth ei thad a’i mam,a’i bod eisio bod adref pan fydd ei chyflwr yn datblygu,nid mewn ysbyty ac ystafell argyfwng, ac mi fyddai’n fodlon iawn cael ei gyrru i hosbis petai hi’n anodd i gynnal ei thriniaeth yn ei chartref.
Mi wnaethon ni’n dau ddychmygu pwy oedd o dy gwmpas di yn ystod d’ anadl olaf a pwy fyddai’n gafael yn dy law. Credaf bod hyn yn awgrymu ei gweledigaeth o’i marwolaeth ei hun a oedd mor bwysig iddi,ac mi roddaist ffordd i’r claf gyfleu’r dyhead hwn i mi,rhywun cymharol ddieithr.
Diolch.
*********************************************************
English language version: https://blogs.bmj.com/spcare/2016/01/15/a-thank-you-letter-to-david-bowie-from-a-palliative-care-doctor/
(Visited 177 times, 1 visits today)