{"id":1097,"date":"2016-01-29T14:02:03","date_gmt":"2016-01-29T14:02:03","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/?p=1097"},"modified":"2024-02-06T14:36:32","modified_gmt":"2024-02-06T14:36:32","slug":"llythyr-o-ddiolch-i-david-bowie","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/2016\/01\/29\/llythyr-o-ddiolch-i-david-bowie\/","title":{"rendered":"Llythyr o ddiolch i David Bowie oddi wrth feddyg gofal lliniarol"},"content":{"rendered":"<h5><em><strong>Dr Mark Taubert,Ymgynghorydd Gofal Lliniarol yn Ysbyty Felindre, Caerdydd, Cymru \u00a0<a href=\"https:\/\/twitter.com\/profmarktaubert\">Twitter<\/a><\/strong><\/em><\/h5>\n<h5><em><strong>Cyfieithiad gan D W Williams<\/strong><\/em><\/h5>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2030\" src=\"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"462\" height=\"631\" srcset=\"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-scaled.jpg 1875w, https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-220x300.jpg 220w, https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-750x1024.jpg 750w, https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-768x1048.jpg 768w, https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-1125x1536.jpg 1125w, https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-1500x2048.jpg 1500w, https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/files\/2016\/01\/20231230_131755-640x874.jpg 640w\" sizes=\"auto, (max-width: 462px) 100vw, 462px\" \/><\/a><\/p>\n<h5>Annwyl David,<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong><em>\u2018Oh no,don\u2019t say it\u2019s true\u2019<\/em><\/strong> ac wrth i ni ddygymod \u00e1\u2019r newydd am dy farwolaeth yn ystod dyddiau llwydaidd,oer Ionawr 2016, aeth y rhelyw ohonom ymlaen \u00e1\u2019n bywydau a\u2019n gwaith bob dydd.Ar ddechrau\u2019r wythnos honno, cefais drafodaeth ag un o gleifion yr ysbyty, un oedd yn wynebu diwedd ei hoes. Wrth drafod dy farwolaeth a dy gerddoriaeth,mi ddechreuon ni siarad am nifer o bynciau dwys,rhai sydd ddim bob amser yn rhai hawdd i\u2019w trafod \u00e1 rhywun sydd yn wynebu diwedd oes. Yn wir,roedd dy stori di\u2019n ffordd i ni gyfathrebu\u2019n agored iawn am farwolaeth, pwnc y mae nifer o ddoctoriaid a nyrsus yn cael trafferth i\u2019w drafod.Ond cyn i mi s\u00f3n mwy am y drafodaeth uchod,hoffwn gyfaddef ambell ffaith gan obeithio na fyddaf yn dy ddiflasu\u2019n ormodol.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Diolch am yr Wythdegau<\/strong> pan wnaeth dy albwm <em>Changesonebowie<\/em> roi oriau o bleser pur i mi,yn enwedig yn ystod un daith arbennig o Darmstadt i Cologne ac yn \u00f3l. Mae\u2019n bur debyg y byddaf i a\u2019m ffrindiau yn cysylltu <em>Diamond Dogs, Rebel Rebel, China Girl <\/em>a<em> Golden Years<\/em> gyda\u2019r cyfnod arbennig hwnnw yn ein bywydau. Does dim angen dweud ein bod wedi cael amser bythgofiadwy yn K\u00f3ln.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Diolch am \u2018<em>Berlin\u2019<\/em><\/strong>, yn enwedig yn y dyddiau cynnar pan oedd dy ganeuon yn rhoi cefnlen cerddorol i\u2019r hyn oedd yn digwydd yn Nwyrain a Gorllewin yr Almaen.Mae <em>\u2018Helden\u2019<\/em> gen i o hyd ar \u2018<em>vinyl<\/em>\u2019 ac mi chwaraeais y g\u00e1n unwaith yn rhagor pan glywais am dy farwolaeth (mi fyddi\u2019n falch iawn o glywed y bydd \u2018<em>Helden<\/em>\u2019 yn cael ei chlywed yn y cyfarfod nesaf o\u2019n Clwb Cerddoriaerth Analog a fydd yn cael ei gynnal yn nhafarn y <em>Pilot <\/em>ym Mhenarth hwyrach ymlaen mis yma.) Mae rhai\u2019n cysylltu David Hasselhoff gyda chwymp y wal a\u2019r aduno;ond mae\u2019n siwr byddai\u2019n well gan y rhan fwyaf o Almaenwyr petai amser wedi rhoi sigar\u00e9t yng ngheg Mr Hasselhoff yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn ein harbed rhag cael ein byddaru wrth glywed <em>\u2018I\u2019ve been looking for<\/em> <em>freedom<\/em>\u2019 yn ddiddiwedd ar y radio.Yn bersonol, \u2018<em>Heroes<\/em>\u2019 yw trac sain y cyfnod hwn yn ein hanes<em>.<\/em><\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Diolch hefyd ar ran fy ffrind,Ifan,<\/strong>a aeth i un o dy gigs yng Nghaerdydd.Ei chwaer,Haf,oedd wrth y drws y noson honno ac mi glywais bod Ifan wedi cael mynd i mewn am ddim (mae\u2019n ymddiheuro\u2019n fawr!) Codaist dy law arno ef a\u2019i ffrind o\u2019r llwyfan,profiad a fydd yn aros yn ei gof am byth.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Diolch am \u2018<em>Lazarus<\/em>\u2019 a \u2018<em>Blackstar<\/em>\u2019.<\/strong> Rwyf yn feddyg gofal lliniarol ac mae\u2019r hyn wnest ti yng nghyfnod dy farwolaeth wedi cael effaith cryf iawn arnaf i a nifer o\u2019m cydweithwyr. Mae dy albwm wedi ei britho \u00e1 chyfeiriadau ac awgrymiadau. Yn \u00f3l d\u2019 arfer, nid wyt yn gwneud y gwaith o ddehongli\u2019r caneuon yn hawdd, ond efallai nad dyna\u2019r pwynt. Rwyf wedi clywed sawl gwaith pa mor fanwl a threfnus o\u2019t ti\u2019n dy fywyd. Yn fy marn i, nid cyd-ddigwyddiad yw bod dy farwolaeth tawel yn dy gartref wedi digwydd yr un pryd \u00e1 rhyddhau dy albwm gan mai ei neges yw ffarwelio.Roedd y cyfan wedi ei drefnu gan droi angau yn gelfyddyd.Mae fideo <em>Lasarus<\/em> yn un dwys ac mi fydd y golygfeydd yn cyfleu gwahanol ystyron i wahanol bobl; i mi,mae\u2019r gwaith yn delio gyda\u2019r gorffennol wrth iti wynebu marwolaeth anochel.<\/h5>\n<h5><\/h5>\n<h5><strong>Dy farwolaeth yn dy gartref<\/strong>. Yn rhinwedd fy swydd,mae nifer o bobl rwy\u2019n siarad \u00e1 hwy yn credu bo\u2019r rhan fwyaf ohonom yn marw mewn ysbytai,sef llefydd clinigol,ond rwy\u2019n rhyw rhagdybio dy fod ti wedi <em>dewis <\/em>bod adref ac wedi cynllunio hyn yn fanwl. Dyma un o ddibenion gofal lliniarol, ac mae d\u2019 allu i wneud hyn yn golygu o bosib y bydd eraill yn gweld hwn fel opsiwn. Dywedwyd bo\u2019r lluniau ohonot a welwyd ar \u00f3l dy farwolaeth wedi eu tynnu yn ystod wythnosau olaf dy fywyd. Nid wyf yn gwybod os yw hynny\u2019n wir ond rwy\u2019n sicr y byddai\u2019r rhan fwyaf ohonom yn hoffi edrych mor dda mewn siwt ag o\u2019t ti\u2019n edrych bryd hynny. Yn \u00f3l yr arfer,o\u2019t ti\u2019n drwsiadus, fel petaet yn amddiffyn dy hun rhag rhai o\u2019r bwystfilod erchyll \u00e1 gysylltir \u00e1 dy gyflwr yn ystod wythnosau olaf dy fywyd.<\/h5>\n<h5><\/h5>\n<h5><strong>Er mwyn ceisio rheoli dy sumptomau, <\/strong>mae\u2019n bur debyg bod gofalwyr lliniarol proffesiynol wedi dy gynghori am boen, cyfogi,diffyg anadl,a gallaf ddychmygu eu bod wedi gweud hynny\u2019n drylwyr iawn. Rwy\u2019n rhagweld hefyd eu bod wedi trafod unrhyw broblem emosiynol oedd gennyt.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Parthed cynllunio gofal ymlaen llaw <\/strong>(hynny yw,gwneud penderfyniadau\u00a0 iechyd a gofal cyn i\u2018r cyflwr waethygu a chyn dy fod yn methu mynegi dy hunan) rwy\u2019n sicr bod gennyt lawer o syniadau, disgwyliadau,penderfyniadau blaenorol ac amodau. Efallai bo\u2019r rhain wedi eu mynegi\u2019n glir ar bapur ac wrth ymyl dy wely gartref fel bod pawb a oedd yn dy gyfarfod yn gwybod yn union beth oedd dy ddymuniad, waeth beth bynnag oedd d\u2019 allu i gyfathrebu. Dyma rhywbeth mae pawb sy\u2019n gweithio ym maes gofal a iechyd-nid yn unig y gofalwyr lliniarol-yn dymuno ei gynnig a\u2019i wella fel ei bod yn llai tebygol y byddai digwyddiad o salwch sydyn yn golygu taith ambiwlans golau-glas yn syth i\u2019r ystafell argyfwng. Yn enwedig,felly,pan mae\u2019r cleifion yn methu siarad ar eu rhan eu hunain.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Ac rwy\u2019n amau\u2019n gryf a roddodd rhywun Adfywiad Cardiopwlmonari <\/strong>\u00a0iti yn ystod oriau\/dyddiau olaf dy fywyd,neu hyd yn oed wedi ystyried hynny. Yn anffodus, mae rhai cleifion sydd ddim wedi dewis derbyn y driniaeth hon yn dal i\u2019w derbyn,yn ddiofyn. Mae\u2019n golygu pwyso\u2019n gorfforol, galed ar y frest, siociau trydan, pigiadau a lledu\u2019r bibell wynt,ac yn llwyddiannus mewn 1-2% o gleifion sydd \u00e1\u2019u cancr wedi lledaenu i organau eraill y corff. Mae\u2019n bur debygol dy fod wedi gofyn a gorchymyn i dy dim meddygol beidio \u00e1 cheisio\u00a0 Adfywiad Cardiopwlmonari (dyma rhywbeth yr ydym yn geisio\u2019i gynnig yma yng Nghymru,fel rhan o\u2019r ymgyrch <a href=\"http:\/\/www.talkcpr.cymru\"><strong><em>TALKCPR<\/em><\/strong><\/a> ar gyfer pobl sydd yn derbyn gofal lliniarol.) Alla\u2019 i ond dychmygu sut brofiad oedd trafod hyn, ond unwaith eto mi\u2019r o\u2019t ti\u2019n arwr, neu\u2019n \u2018<em>Held<\/em>\u2019 yn Almaeneg, hyd yn oed yn ystod munudau mwyaf heriol dy fywyd.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Ac mi fyddai gan y bobl proffesiynol a fu\u2019n gofalu amdanat wybodaeth a sgiliau gofal lliniarol. <\/strong>Yn anffodus, nid yw\u2019r pethau allweddol hyn bob amser ar gael i weithwyr ifanc,proffesiynol yn y maes iechyd a gofal, gan gynnwys doctoriaid a nyrsus. Wrth baratoi eu haddysg, does dim blaenoriaeth i ofal lliniarol;mae\u2019n cael ei anwybyddu. Os wyt am ddychwelyd yn \u00f3l (fel y gwnaeth Lasarus) credaf y byddet ti\u2019n gefnogwr cryf i\u2019r syniad o gael hyfforddiant gofal lliniarol ym mhobman.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5><strong>Felly\u2019n \u00f3l i\u2019r sgwrs <\/strong>a gefais gyda\u2019r wraig a glywodd y newydd bod ei chancr wedi lledaenu, ac na fyddai hi\u2019n byw llawer iawn mwy na rhyw flwyddyn arall. Mi siaradodd amdanat ti a\u2019i chariad at dy gerddoriaeth ond am ryw reswm doedd hi ddim yn rhy hoff o dy wisg Ziggy Stardust (doedd hi ddim yn rhy siwr os mai bachgen neu ferch o\u2019t ti.) Roedd hi,hefyd, yn cysylltu dy drac sain idiosyncratig gydag atgofion am lefydd a digwyddiadau. Ac yna mi siaradon ni am farwolaeth dda,am y munudau olaf a\u2019r hyn oedd yn ei disgwyl. Ac mi siaradon ni am ofal lliniarol a sut y gall y gofal hwnnw fod yn gymorth. Soniodd wrtha\u2019 i am farwolaeth ei thad a\u2019i mam,a\u2019i bod eisio bod adref pan fydd ei chyflwr yn datblygu,nid mewn ysbyty ac ystafell argyfwng, ac mi fyddai\u2019n fodlon iawn cael ei gyrru i hosbis petai hi\u2019n anodd i gynnal ei thriniaeth yn ei chartref.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5>Mi wnaethon ni\u2019n dau ddychmygu pwy oedd o dy gwmpas di yn ystod d\u2019 anadl olaf a pwy fyddai\u2019n gafael yn dy law. Credaf bod hyn yn awgrymu ei gweledigaeth o\u2019i marwolaeth ei hun a oedd mor bwysig iddi,ac mi roddaist ffordd\u00a0 i\u2019r claf gyfleu\u2019r dyhead hwn i mi,rhywun cymharol ddieithr.<\/h5>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h5>Diolch.<\/h5>\n<h5><\/h5>\n<p>*********************************************************<\/p>\n<p>English language version: <a href=\"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/2016\/01\/15\/a-thank-you-letter-to-david-bowie-from-a-palliative-care-doctor\/\">https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/2016\/01\/15\/a-thank-you-letter-to-david-bowie-from-a-palliative-care-doctor\/<\/a><!--TrendMD v2.4.8--><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dr Mark Taubert,Ymgynghorydd Gofal Lliniarol yn Ysbyty Felindre, Caerdydd, Cymru \u00a0Twitter Cyfieithiad gan D W Williams Annwyl David, &nbsp; \u2018Oh no,don\u2019t say it\u2019s true\u2019 ac wrth i ni ddygymod \u00e1\u2019r newydd am dy farwolaeth yn ystod dyddiau llwydaidd,oer Ionawr 2016, aeth y rhelyw ohonom ymlaen \u00e1\u2019n bywydau a\u2019n gwaith bob dydd.Ar ddechrau\u2019r wythnos honno, cefais [&#8230;]<\/p>\n<p><a class=\"btn btn-secondary understrap-read-more-link\" href=\"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/2016\/01\/29\/llythyr-o-ddiolch-i-david-bowie\/\">Read More&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":275,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[2841,1979],"tags":[],"class_list":["post-1097","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-advance-care-planning","category-social-media"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1097","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/users\/275"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1097"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1097\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1097"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1097"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.bmj.com\/spcare\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1097"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}